Skip to main content

dymor yr haf yn ailddechrau ddydd Mercher 14 Awst.

Lido Pontypridd - Swim - Children - Summer - June 22 - GDPR Approved-53

Bydd defnyddwyr brwd Lido Ponty yn falch o gael gwybod bod prif dymor yr haf yn ailddechrau ddydd Mercher 14 Awst.

Bydd tocynnau ar gyfer ail hanner tymor yr haf (hyd at ddiwedd gwyliau'r haf) yn mynd ar werth o 9am ddydd Llun 22 Gorffennaf. Cofiwch fod tocynnau ar gyfer sesiynau hyd at 30 Gorffennaf  ar werth nawr.

Yn ogystal â sesiynau ar gyfer hyd at 30 Gorffennaf, a sesiynau rhwng 2 a 10 Awst i Eisteddfodwyr, mae hwyl yr haf yn parhau o ganol mis Awst.

Bydd hi'n wyliau'r haf sy'n golygu y bydd dwy sesiwn nofio ben bore bob diwrnod yr wythnos, wedyn chwe sesiwn hwyl i'r teulu lle bydd y tri phwll ar agor a bydd y cwrs rhwystrau teganau gwynt ar gael!

Bwriwch olwg ar yr amserlen yma:

Wrth gwrs, does dim angen nofio i fwynhau Lido Ponty. Mae modd ymlacio ar y gwelyau haul ar y teras wrth i'r plant a gweddill y teulu fwynhau yn y pyllau. Dewiswch docyn gwylio wrth brynu tocynnau nofio ar gyfer yr unigolion eraill.

Bydd Caffi'r Lido ar agor felly bydd modd prynu diod oer neu boeth ac ymlacio yn yr haul.

Er bod y sesiynau nofio ben bore yn fwy ffurfiol ac yn canolbwyntio ar nofio mewn lonydd, maen nhw ar gael i bawb.

Yn yr un modd, os ydych chi eisiau nofio yn ystod y sesiynau hwyl i'r teulu, mae modd gwneud hynny gan fod lle wedi'i neilltuo ar gyfer nofio mewn lonydd.

Mae tocynnau ar gyfer Lido Ponty yn costio £3 i oedolion. Mae'r Lido am ddim i blant 16 oed ac iau. Os ydych chi eisiau mynd ar y cwrs rhwystrau teganau gwynt/peli dŵr/cychod pedlo, mae'n costio £2.50 y pen, beth bynnag fo oedran y person. Mae modd prynu bandiau gweithgareddau wrth brynu tocynnau ar-lein, neu wrth y dderbynfa. Nodwch y codir ffi o 25c fesul person hefyd.

Mae modd prynu tocynnau ar-lein yma www.lidoponty.co.uk

Nodwch – does dim modd prynu mwy na chwe thocyn ar gyfer un sesiwn. Os ydych chi'n ceisio prynu mwy na 6 thocyn ar gyfer un sesiwn, bydd y system yn dweud nad oes lleoedd ar gael ar unrhyw sesiwn.

 

Wedi ei bostio ar 15/07/24